Thomas RhysEVANSDymuna Tesni a'r teulu oll ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd estynwyd atynt yn eu profedigaeth o golli priod, brawd, brawd yng nghyfraith ffyddlon ac ewythr arbennig. Diolch am yr ymweliadau, y llu cardiau a galwadau ffon, ac am roddion o flodau a chacenau dderbynniwyd. Diolch am y rhoddion hael o £1550 dderbynniwyd er cof am Rhys at Gronfa Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru a Chronfa'r Diffibriliwr yn Llanrug. Diolch i swyddogion Capel y Rhos am gael defnyddio'r Capel. Diolch i'r Parch John Pritchard am ei wasanaeth teimladwy ac i'r organyddes Mrs. Lowri Prys Roberts am ei gwasanaeth. Diolch i'r cludwyr ac i Gill Evans am y blodau hardd i'r angladd. Diolch i berchennog a staff Bwyty Clwb Golf Caernarfon am drefnu lluniaeth ardderchog wedi'r angladd. Diolch hefyd am y deyrnged dda i Rhys o waith Gwilym Morris Jones (Mois) a ymddangosodd yn Eco'r Wyddfa ac yn olaf diolch i Huw a Beti Jones, Pontllyfni am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates